Cytuno'n llwyr, John. Roeddwn i wrthi'n cyfieithu adroddiad ar ddatblygu
cynaliadwy yn ddiweddar ac yn methu â gwneud pen na chynffon o un frawddeg.
Ar ôl pendroni am oriau, mi gysylltais â golygydd y gyfres o adroddiadau yr
oedd yr adroddiad dan sylw yn rhan ohoni. Yr ateb gefais i oedd "To be
honest with you, I don't have a clue what this means either but I'll ask the
author and get back to you" (!). Golygydd y gyfres, cofiwch! Beth bynnag, mi
aeth yr awdur ati i aralleirio'r frawddeg dan sylw ac roedd hi'n gwneud
perffaith synnwyr wedyn. Mewn achosion fel hyn, mae'n anodd peidio ag
ailadrodd geiriau'r hen gyfaill Basil Fawlty yn y bennod 'Hotel Inspectors',
pan ofynnodd rhywun mewn iaith jargonllyd am gael teledu yn ei ystafell -
"Why don't you just talk properly?!"!!
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of John Puw
Sent: 27 July 2004 18:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Mobility
Ann
Rwy'n digalonni ynghylch safon Saesneg jargonllyd yn ddyddiol. O ystyried y
rwts sy'n rhaid ei gyfieithu i Gymraeg yn ddyddiol, mae'n fy synnu weithiau
fod safon y Gymraeg mor dda!
Tasa 'na'r fath beth â phlismon iaith, mi fydda'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n
sgwennu'r hyn fydda i'n ei gyfieithu bod dydd wedi derbyn dedfryd oes ers
stalwm!
Hwyl
John
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: "John Puw" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 27, 2004 3:45 PM
Subject: Mobility
> Weithiau dw i'n digalonni ynghylch cyflwr yr iaith Gymraeg, gan gynnwys
pobl
> yn sbowtio jargon heb ei ddeall yn iawn, felly mae'n newid i gael
digalonni
> ynghylch yr un peth yn Saesneg.
>
> Ar dir Ysbyty Gwynedd heddiw gwelais yr arwydd canlynol ('roedd y Gymraeg
yn
> iawn, gyda llaw):
> "Parking for Elderly Citizens with Mobilisation Problems"
>
> Ann
|