Cyd-destun - darn o waith cwrs ysgol sy'n gwahaniaethu rhwng y ddau derm.
Rwy'n eitha hapus gyda 'drama ddogfen' ar gyfer 'drama documentary' am ei
bod yn ddrama gyda sail ffeithiol.
Fodd bynnag, mae 'docudrama' yn ddrama sy'n tynnu ar agweddau ar fywyd
cyfoes, ond nid oes sail ffeithiol iddi. Dim ond drama sydd wedi'i ffilmio
yn null dogfen ydyw. Felly, oes modd galw'r math hwn o gynhyrchiad
yn 'ddrama ddogfen' hefyd? Yn fy marn i, nid yw hynny'n cyfleu'r ystyr
briodol ac nid yw'n gwahaniaethu'n ddigonol rhwng y ddau derm.
Unrhyw syniadau/awgrymiadau?
|