> 'Roeddwn i'n pendroni ynghylch "Dileu" ar gyfer "Cancel", ond gwelaf y
> gellir (gweler "CySill") cael "Delete" and "Cancel" ar yr un tudalen a bod
> CySill yn defnyddio "Dileu" a "Canslo" - unrhyw sylwadau?
>
> Beth am "Abort"? "Atal"?
Mae'n werth edrych ar:
http://www.kyfieithu.co.uk/kywiro/index.php?lg=cy&
ond cymerwch binsiad mawr o halen gyda'r dewis o eirfa
e.e. mae fy nefnydd i o 'diofyn' yn sefyll allan ymysg y
rhagosodedigion
Mae 'erthyl' yn anghywir am abort yn y cyd-destun yma
Mae gan 'atal' arlliw o 'prevent' sydd ddim yn rhoi'r ystyr iawn.
Felly 'terfynu' fasen i'n ddefnyddio..
|