Diolch yn fawr i Geraint, Ann a Wil. 'To pwyso' ddefnyddiais i yn y diwedd
gan fod y ddogfen dan sylw'n un ar gyfer awdurdodau lleol yn bennaf
(Awdurdod lleol oedd y cleient a ofynnodd i mi ddefnyddio 'to pwyso' yn y
gorffennol a chan fod Cyngor Gwynedd hefyd yn defnyddio'r term, mae'n amlwg
mai dyma sy'n cael ei ddefnyddio yn y maes).
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
Sent: 07 June 2004 19:49
To: [log in to unmask]
Subject: Re: lean-to roof
Estyniad to pwyso oedd y term yng Ngwynedd am 'lean-to extension' erstalwm
pan o'n i yno.
Roedd 'pentis' yn y rhestr hefyd, wedi'i nodi fel gair oedd ar lafar yn
nyffryn Ceiriog.
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, June 07, 2004 4:05 PM
Subject: Re: lean-to roof
> 'Rwyf innau wedi bod yn dilyn Geiriadur yr Academi, ac yn defnyddio
"penty"
> ar gyfer "lean-to". Mae 'na ddewisiadau eraill hefyd dan "lean3".
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "INC Cyfieithu Translation" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, June 07, 2004 2:42 PM
> Subject: Re: lean-to roof
>
>
> Defnyddid 'to arbwys' gan Wasanaeth Manddaliadau Gwyedd. To un rhediad yw
> hwn ac felly mae'n 'pwyso' ar golofnau neu waliau tra bo pwysau to dau
> rediad yn ei ddal ei hun i fyny ar y grib.
>
> Wil
> ----- Original Message -----
> From: Garmon Davies
> To: [log in to unmask]
> Sent: Monday, June 07, 2004 2:14 PM
> Subject: lean-to roof
>
>
> Mae un cwsmer wedi mynnu fy mod yn defnyddio 'to pwyso' a gyfer hwn yn y
> gorffennol. Gwaith i gwsmer arall sydd gennyf ar y gweill heddiw, felly
dyma
> gyfle i ofyn ai dyma'r term swyddogol am do o'r fath ynteu a oes gan rywun
> gynnig arall os gwelwch yn dda?
>
>
>
> Diolch yn fawr am unrhyw gymorth.
>
>
>
> Garmon
>
>
>
> Garmon Davies
>
> Ewrolingo
>
> +44 (0) 1656 668603
>
> www.ewrolingo.co.uk
|