Yn un o gyfarfodydd panel safoni termau Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r
Cynulliad, awgrymwyd y cyfieithiad "llofiadur", gan ddilyn patrwm "llofnod"
a.a., ond, a gall Meinir Evans ac eraill fy nghywiro os ydw i'n anghywir,
nid wyf yn credu i'r argymhelliad gael ei dderbyn (do'n i ddim yn y cyfarfod
felly ni allaf esbonio pam, ond fe fyddwn i'n tybio bod cynefindra wedi
dylanwadu ar y rhai fu'n penderfynu) - ond o leia mae'n swnio'n neisach na
"llawiadur" ac yn haws i'w ddweud na "cledriadur"!
-----Original Message-----
From: David Bullock [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 20 May 2004 18:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Palmtops
Ydy hynny'n golygu bod pladur yn gasgliad o plâu te?
(Jôc oedd hyn'na, cyn ichi i gyd estyn am gywiriadur!)
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 20 May 2004 17:55
To: David Bullock
Subject: Re: Palmtops
Yn anffodus, nid yw gliniadur yn batrwm y dylid ei ddilyn. 'Roeddwn i wedi
clywed Bruce yn beirniadu'r gair o'r blaen, felly gofynnais am eglurhad:
Mae "-iadur" naill ai'n gasgliad o rywbeth - meddyliwch am ddyddiadur,
geiriadur, blwyddiadur (?), Suliadur ayb - neu'n mynd efo rhyw ferf -
teipiadur, cyfrifiadur ayb. Nid yw gliniadur yn gasgliad o liniau ac nid
yw'n glinio. Mae'n biti pan fo rhywbeth a arferai olygu rhywbeth yn colli ei
ystyr dim ond oherwydd i'r gair newydd swnio'n dwt - yn anffodus, pethau fel
'na sy'n cydio. Yn anffodus, nid oedd Bruce yn medru meddwl am ddim by
arall yn ar y pryd.
Gyda llaw, ychydig iawn y byddwn ni o gwmpas yn y dyddiau/wythnos nesaf
chwaith.
Ann
----- Original Message -----
From: "Roberts, Nia" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 20, 2004 4:42 PM
Subject: Re: Palmtops
> Gan ddilyn patrwm 'gliniadur' am laptop, beth am
'clediadur/llawiadur(!!?).
> Gyda hynny o awgrym, hwyl, dwi'n mynd adre!
> Nia
>
> > ----------
> > From: Saran Prydderch[SMTP:[log in to unmask]]
> > Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> > vocabulary
> > Sent: 20 May 2004 15:00
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Palmtops
> >
> > Hynny yw - y cyfrifiadur bach y byddwch yn dal yn eich llaw. Oes unrhyw
un
> > yn gallu meddwl am drosiad bachog neu wedi defnyddio rhywbeth eisoes?
> >
> > Diolch eto,
> > Saran
> >
> > Saran Prydderch
> > Cyfieithydd Cymunedol / Community Translator
> > Menter Iaith Abertawe
> > Ty Tawe
> > 9 Stryd Christina
> > Abertawe
> > SA1 4EW
> >
> > 01792 652252
> >
>
>
> ******************************************************************
>
> This email and any files transmitted with it are confidential
> and intended solely for the use of the individual or entity to
> whom they are addressed. If you have received this email in error
> please notify the administrator on the following address:
> [log in to unmask]
>
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
> gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
> hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
> gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
> [log in to unmask]
>
> *******************************************************************
>
PLEASE NOTE: THE ABOVE MESSAGE WAS RECEIVED FROM THE INTERNET.
On entering the GSi, this email was scanned for viruses by the Government
Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis
in partnership with MessageLabs.
Please see http://www.gsi.gov.uk/main/notices/information/gsi-003-2002.pdf
for further details.
In case of problems, please call your organisational IT helpdesk
The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs.
On leaving the GSi this email was certified virus-free
|