Mae trafodaeth yn yr archifau - fi ofynnodd y cwestiwn gwreiddiol - ond
alla'i ddim cofio be ddefnyddiais i! (help mawr dwi'n gwybod).
Dwi'n cael y teimlad bod yr ymadrodd yn gallu golygu rhywbeth gwahanol i
awduron gwahanol yn Saesneg - newid fesul cam/newid sydyn/newid
graddol/newid cyfeiriad - mae'n dibynnu ar y cyd-destun, a hyd yn oed wedyn
dydy o ddim bob amser yn amlwg!
Catrin
----- Original Message -----
From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 01, 2004 3:09 PM
Subject: Step Change
> Y frawddeg yw 'A step change is necessary for the future'.
> Unrhyw gynigion?
> Diolch
> Gwen
|