Menraf i'r cylch yma gyda phryder. Diddordeb, nid arbenigaeth yw'r sbardun.
Teimlaf fod dwy swyddogaeth i bob term, sef eicon i'w wahanieithu oddiwrth
dermau eraill, a nodwedd i gyfleu ystyr. Mae'n rhaid fod y nodwedd yn
ddigon agored i gwmpasu bob enghraifft ddiriaethol, ond nid yn rhy agored i
fod yn amwys.
Yn fy marn i mae 'baw' yn rhy agored fel disgrifiad o 'POOP'. Er fod
pob 'POOP' yn faw, nid yw pob baw yn 'POOP'. Byddai bow ci yn fwy penodol --
ond beth am gathod a cheffylau? Hefyd, mae rhaw ymhell o fod yn 'SCOOP'
'Roedd fy nghrwydro meddwl i yn mynd ar y trywydd 'jac codi baw' --- codwr
baw (piti nad oes gair fel codydd). Nnid yw rhain yn ufuddhau y canllawiau
uchod.
Beth am 'Casglydd carthion' ? O leiaf mae'n cadw'r cyseiniad!
Efallai bod Huw Jones 'Cydymaith Byd Amaeth' yn settlo'r mater
gyda 'Carthbren', ond mae'r wraig yn cynnig 'Carthlwy' ---- gwae i fi
anghytuno.
Hwyl
Eric
|