Dw i ddim yn meddwl y base plant ni'n cymryd at "persawrydd" na "peraroglydd" chwaith.
Mae hon yn egwyddor bwysig - diolch Garmon.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garmon Davies
Sent: 03 March 2004 14:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: air freshener
Rwy'n cytuno nad yw 'peth gwneud ogla da' yn ddelfrydol ym mhob cyd-destun ac fel a nodais yn fy neges gyntaf, mae'n bosib iawn nad yw'n ddigon cryno na thwt at y diben y tro hwn (dim ond y sawl a ymholodd yn wreiddiol a wyr hynny). Ond wedi dweud hynny, rwy'n meddwl ei bod yn bwysig bod unrhyw derm a fathir am rywbeth sy'n rhan o fywyd bob dydd yn un di-lol ac ymarferol neu mae perygl i bobl barhau i ddefnyddio'r enw Saesneg. Byddai Rhisiart a Glenys yn cofleidio 'peraroglydd' ar unwaith, rwy'n siŵr ond 'peth gwneud ogla da' ydy o wedi bod i mi erioed, ac fel rhywun a faged ar aelwyd Gymraeg ac sydd yn gwneud fy ngorau glas i fagu fy merch fach yn sŵn yr iaith fyw o ddydd i ddydd, 'peth gneud ogla da' fydd o am byth yn ein tŷ ni!
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of staffdld
Sent: 03 March 2004 14:14
To: [log in to unmask]
Subject: Re: air freshener
Bu rhai cynigion braidd yn drwsgl ar gyfer bathu term sydd â chyfle o
wreiddio'i hun yn ymarferol o fewn iaith fyw mewn sefyllfa bob-dydd - "Peth
gneud hogla da", er enghraifft. Onid yw rhywbeth felly'n bygwth gwthio'r
Gymraeg yn ôl i fod yn iaith fach bictograffig, "ciwt", cyntefig a doniol yng
ngolwg gwybodusion byd a'r sawl sy'n "credu mewn trefn" ?
Mae "datbongiwr" ar y llaw arall yn gryno, yn boenus o eglur, ychydig yn
ddoniol, hollol gofiadwy ac yn reit hawdd i'w ynganu. Y drafferth, efallai, yw
nad yw'n osgeiddig o gwbl !
Ac os derbyn "diaroglydd aer" - sy'n derm astrus, diraen di-liw, di-waed,
di-lun i'm tyb i, pam nad rhywbeth tebyg fydd wedi'i seilio ar air (maddeued y
gair mwys) sy eisioes yn bod yn yr iaith - er, rhaid cyfaddef, ychydig yn
hen-ffasiwn: h.y., "peraroglydd". O leiaf mae'n eglur ei ystyr ac wedi'i
seilio ar air go-iawn. Barn bersonol yn unig wrth gwrs !
LESLIE DAVIES.
>===== Original Message From Discussion of Welsh language technical
terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
=====
>Rydym ni wedi penderfynu defnyddio 'diaroglydd aer', gan fod 'diaroglydd' yn
bod eisoes, a chael gwared ar arogleuon o'r aer yw swyddogaeth y peth.
|