Un tro, cafodd fy ngw^r lythyr wedi'i gyfeirio at "Starvel Roberts".
Yr unig esboniad y gallem feddwl amdano oedd ei fod wedi ffonio'r cwmni
a dweud "Hello, it's Dafydd Roberts" a'u bod nhw wedi camddeall!
Ddim yn hollol berthnasol i'r drafodaeth efallai, ond...
Cofion
Siân
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 01 March 2004 00:11
To: [log in to unmask]
Subject: Daffyd
Drwy gydol fy ngyrfa yn Lloegr deuthum ar draws y gair hwn yn
feunyddiol.
Ymddangosai yn rheolaidd ar ddechrau e-byst, yn ystod bron bob sgwrs neu
drafodaeth, yn y swyddfa ac ar y ffôn, a hyd yn oed yn ystod y
cyfnewidion
bychain byr hynny ar y ffordd i ginio neu i’r tŷ bach. Defnyddid y
term
gan Saeson ac Americanwyr, cydweithwyr a chymdogion – a hyd yn oed y
wraig, sydd o dras Wyddelig. Hynny yw, pawb ond y ci. O dro i dro yn yr
e-
byst gebyst i [log in to unmask] ymddangosai termau estron
eraill, megis Dafyyd, Daffyyd…a hyd yn oed Dafydd ambell dro. Ond ‘roedd
Daffyd yn gyson ac yn rheolaidd.
Mae defnydd y gair yn lledaenu, nes i mi feddwl tybed a ddylem
benderfynu
pa un yw’r ffurf fodern gywir – Dafydd ynteu Daffyd? Rhaid cael
cysondeb,
yn rhaid? Yn ddiweddar pan ddaeth heddwas ar y teledu, ar raglen yn sôn
am
ddirywiad canol y dref yn Abertawe, Daffyd oedd ei enw, yn ôl yr isdeitl
ar y sgrîn. Cyhoeddwyd pwt o lythyr yn yr Herald Gymraeg flwyddyn neu
ddwy
yn ôl yn cwyno fod rhyw fath o gynllwyn Saesneg o gwmpas defnyddio’r
gair,
ond mae hi’n anodd gennyf gredu hyn ar ôl 25ain mlynedd o ddod ar draws
y
term bob dydd tra’n gweithio “i ffwrdd”. Mae’n rhaid fod eglurhad
ieithyddol amdano - tybed oes na rywun am roi cynnig arni?
Daffyd
O.N. Gyda llaw, tydi’r gair hwn ddim mor broblematig yn Lloegr a
“Fychan”.
Pan adewais Gymru yn llanc ifanc o Lŷn, roeddwn yn benderfynol y
byddai’r
Saeson yn deall fod Cymru’n wahanol, felly aeth “David Vaughan” y
systificet enedigaeth yn “Dafydd Fychan”. Dyna’r ffurf ymddangosodd ar
ddogfennau swyddogol o bob math, ac ymfalchïais yn y sioc ar wynebau
aelodau o’r gynulleidfa mewn un seremoni graddio wrth imi gerdded ar y
llwyfan a’r is-ganghellor yn ynganu’r “Fychan” yn groch, fel iddo
swnio'n
hollol fel gair arall, mwy adnabyddedig a rhyngwladol...
|