Fe glywes i fachgen tua 8-10 oed o rywle yn Lloegr yn cymryd rhan mewn
cystadleuaeth ffôn ar raglen deledu yn ddiweddar. 'Daffyd' oedd enw hwnnw
yn ôl ynganiad y cyflwynydd, a 'Daffyd' oedd ar y sgrin hefyd.
Ydy 'Daffyd' wedi dilyn Rhian dros y ffin fel enw bedydd? (Gyda llaw, rwy
wedi gweld 'Rhianne' ar sgrin deledu cyn hyn hefyd.)
Beth bynnag, esgus yw'r sylwadau uchod dros annog pawb i gael pip ar
http://www.yourdictionary.com/library/mispron.html sef rhestr o'r can gair
sy'n cael eu camynganu amlaf yng ngwlad George Bush.
Mae yna glasuron yn eu plith, ac rwy'n hoff iawn o 'old timer's disease'
a 'doggy dog world' yn arbennig.
|