Mae'r un peth yn wir, er enghraifft, am "agorydd tuniau" a "pheth agor
tuniau" - mae'n ymddangos bod 'na le i'r ddau yn ol y cywair a'r cyd-destun.
Ann
----- Original Message -----
From: "Garmon Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 03, 2004 2:31 PM
Subject: Re: air freshener
> Rwy'n cytuno nad yw 'peth gwneud ogla da' yn ddelfrydol ym mhob cyd-destun
ac fel a nodais yn fy neges gyntaf, mae'n bosib iawn nad yw'n ddigon cryno
na thwt at y diben y tro hwn (dim ond y sawl a ymholodd yn wreiddiol a wyr
hynny). Ond wedi dweud hynny, rwy'n meddwl ei bod yn bwysig bod unrhyw derm
a fathir am rywbeth sy'n rhan o fywyd bob dydd yn un di-lol ac ymarferol neu
mae perygl i bobl barhau i ddefnyddio'r enw Saesneg. Byddai Rhisiart a
Glenys yn cofleidio 'peraroglydd' ar unwaith, rwy'n siŵr ond 'peth gwneud
ogla da' ydy o wedi bod i mi erioed, ac fel rhywun a faged ar aelwyd Gymraeg
ac sydd yn gwneud fy ngorau glas i fagu fy merch fach yn sŵn yr iaith fyw o
ddydd i ddydd, 'peth gneud ogla da' fydd o am byth yn ein tŷ ni!
>
> Garmon
>
> Garmon Davies
> Ewrolingo
> +44 (0) 1656 668603
> www.ewrolingo.co.uk
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of staffdld
> Sent: 03 March 2004 14:14
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: air freshener
>
> Bu rhai cynigion braidd yn drwsgl ar gyfer bathu term sydd â chyfle o
> wreiddio'i hun yn ymarferol o fewn iaith fyw mewn sefyllfa bob-dydd -
"Peth
> gneud hogla da", er enghraifft. Onid yw rhywbeth felly'n bygwth gwthio'r
> Gymraeg yn ôl i fod yn iaith fach bictograffig, "ciwt", cyntefig a doniol
yng
> ngolwg gwybodusion byd a'r sawl sy'n "credu mewn trefn" ?
>
> Mae "datbongiwr" ar y llaw arall yn gryno, yn boenus o eglur, ychydig yn
> ddoniol, hollol gofiadwy ac yn reit hawdd i'w ynganu. Y drafferth,
efallai, yw
> nad yw'n osgeiddig o gwbl !
>
> Ac os derbyn "diaroglydd aer" - sy'n derm astrus, diraen di-liw, di-waed,
> di-lun i'm tyb i, pam nad rhywbeth tebyg fydd wedi'i seilio ar air
(maddeued y
> gair mwys) sy eisioes yn bod yn yr iaith - er, rhaid cyfaddef, ychydig yn
> hen-ffasiwn: h.y., "peraroglydd". O leiaf mae'n eglur ei ystyr ac wedi'i
> seilio ar air go-iawn. Barn bersonol yn unig wrth gwrs !
>
> LESLIE DAVIES.
>
>
>
>
>
>
>
>
>
> >===== Original Message From Discussion of Welsh language technical
> terminology and vocabulary
<[log in to unmask]>
> =====
> >Rydym ni wedi penderfynu defnyddio 'diaroglydd aer', gan fod 'diaroglydd'
yn
> bod eisoes, a chael gwared ar arogleuon o'r aer yw swyddogaeth y peth.
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|