Mae dwy broblem.
1. does dim modd cael drwy "ddrws ffrynt" Jiscmail ar y funud. Ond o
ddefnyddio'r cyfeiriad llawn
http://www.jiscmail.ac.uk/lists/welsh-termau-cymraeg.html mae modd cael
at archifau'r cylch.
2. arafwch cyffredinol y rhyngrwyd. Mae problemau diweddar gyda gymaint
o sbam a firysau ar y rhyngrwyd yn arafu'r system i bawb. Mae'n haws ar
aelodau sy'n gweithio i gyrff mawr gyda chefnogaeth dechnegol (ni yn y
brifysgol er enghraifft) lle mae'r drefn yn delio gyda llawer o
negeseuon ofer. Mae pobl sy'n gweithio o'u cartrefi yn cael mwy o
drafferth - cannoedd o negeseuon ofer yn tagu'r system.
Fedrwn ni wneud dim am hyn drwy Jiscmail - amynedd bawb.
Delyth
Ysgrifennodd Pennawd Cyf.:
> Nid ydym wedi derbyn yr un neges gan y cylch heddiw, ac ni allwn
> chwilio'r archifau chwaith. Oes yna broblem dechnegol?
--
Delyth Prys
e-Gymraeg / e-Welsh
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru,Bangor /
University of Wales,Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
[log in to unmask]
+44 (0)1248 38 2800
|