Diolch yn fawr, Dafydd. Mi ddois innau ar draws yr enw 'Rhos Fynach' ar y
wefan www.worldwidewales.com a dechrau meddwl tybed ai hwn yw'r enw Cymraeg
am 'Rhos Point'. Ond wedyn gwelais fod nifer o gyfeiriadau yn Saesneg at
'Rhos Fynach fishing weir' a wnaeth i mi feddwl bod rhyw wahaniaeth
rhyngddynt - er enghraifft, fel yr ydych yn dweud yn eich neges, mai'r tir
gerllaw o bosib yw 'Rhos Fynach'. Yn y diwedd fe benderfynais gymryd y
tudalennau Cymraeg ar wefan CBS Conwy fel cynsail a defnyddio 'Rhos Point'
ond byddai'n sicr yn ddiddorol cael cadarnhad o ran yr enw Cymraeg.
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 22 March 2004 22:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Rhos Point
Ymddiheuriadau am bostio mor hwyr. Mae'n bosib mai Rhos Fynach oedd hwn
ers talwm. Os ewch i'r wefan
http://www.ordnancesurvey.co.uk/oswebsite/getamap/ a chlicio ar "Get a
map" cewch fap o Landrillo-yn-rhos drwy deipio "llandrillo" yn y
blwch ac yna dewis y llandrillo priodol. Mae "Rhos Point" ar y map. Yna
rhaid clicio ar "historic maps" a chewch fap o'r un fan yn dyddio o 1879,
lle gwelir yr enw "Rhos Fynach" ger y Trwyn. Wrth gwrs mae'n bosib nad y
Trwyn oedd hwn ond y tir gerllaw, ond mae'n werth gwybod am fodolaeth y
mapiau 'ma beth bynnag. Trwyn Rhos Fynach efallai?
Dafydd
On Thu, 18 Mar 2004 17:24:31 -0000, Garmon Davies
<[log in to unmask]> wrote:
>Rwyf wedi edrych ar wefan Cyngor Conwy a 'Rhos Point' sydd mewn dogfennau
>Cymraeg. A ydw i'n iawn i gymryd nad oes enw Cymraeg i'w gael o gwbl
felly,
>e.e. 'Trwyn y Rhos'?? Saesneg amdani felly? ..neu amdano..?
>
>
>
>Garmon
>
>
>
>Garmon Davies
>
>Ewrolingo
>
>+44 (0) 1656 668603
>
> <http://www.ewrolingo.co.uk> www.ewrolingo.co.uk
>
>
>
>
|