Cyngor a gefais yn ddiweddar gan therapydd "amgen" wrth drafod yr union
beth oedd i brynu "trampet" (trampoline bychan) a bownsio ar hwnnw am ryw
5 - 10 munud bob hyn a hyn - ei fod ymarfer da ac yn hwyl hefyd!! Gellir
ei osod yn y swyddfa, neu yn yr awyr agored er mwyn cael tipyn o awyr iawch
i'r ysgyfaint wrth fownsio!!!
Dwi ddim wedi dechrau bownsio eto!!
Dwynwen
----- Original Message -----
From: John Williams cyfieithydd YMLL
<[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 02, 2004 4:28 PM
Subject: Repetitive Strain Injury
> Dwi'n cytuno efo ti Ann yn llwyr - am unwaith!
>
> Ymateb lled bersonol ond perthynasol.
>
> Dwi ddim yn meddwl fod eistedd o flaen sgrin am oriau bob dydd yn gwneud
llawer o les i neb, a dwi'n afresymol o brysur y tu allan i fan hyn hefyd,
OND ac mae hwn yn OND pwysig iawn.
>
> Pan oeddwn i'n ymarfer Karate yn rheolaidd ac o ddifri, byddwn i allan o'r
ty o 6.30 tan ryw 10. Mae hynny yn gwbl amhosib y dyddiau hyn, felly ers
diwedd Tachwedd dwi wedi bod yn trio fy ngorau glas i wneud hanner awr o
seiclo CALED bob dydd.
>
> Hyd yma dwi wedi cwblhau 33 awr a rhyw 230 o filltiroedd ac yn teimlo - a
gobeithio yn edrych - yn gan mil gwell.
>
> Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gallu ffeindio hanner awr. Wrth wneud ymarfer
aerobig - lle codir curiadau'r galon nes ymylu ar fod allan o wynt - mae
gwaed llawn ocsigen yn cyrraedd pob man a'r ocsigen yn gweithio fel tanwydd
i losgi braster a thonio cyhyrau.
>
> Mantais arall ydy fod rhywun yn dal i fedru bwyta lot o bethau gweddol
bleserus!
>
> O ran cymryd toriad, mae rhai yn credu y dylid gadael yr ystafell bob dwy
awr i gael awyr iach, ond wedyn mae rhywun yn risgio sylwadau sarci fel 'Ti
allan o dy stafell eto! Oes gen ti ddim gwaith i'w wneud?'
>
> Ymhen rhyw ugain mlynedd, fe ddown i gyd i ddysgu am y niwed mae gweithio
ar y cyfrifiaduron hyn wedi ei wneud i ni a bydd hi'n rhy hwyr!
>
> Yn iach - ar hyn o bryd -
>
> John.
>
>
> ________________________________________________________________
> Sent via the WCBC Schools Email system at ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk
>
>
>
>
>
> * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
* * * * * * *
>
> This e-mail message and any attachments are confidential and intended
solely for
> the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you
are not
> the intended recipient and have received this e-mail in error, any use,
dissemination,
> forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are
requested to
> contact the sender and delete the material from any computer. Opinions,
conclusions
> and other information in this message that do not relate to the official
business of
> Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor
endorsed by it.
>
> Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol
ac fe'i
> bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad
chi yw'r
> derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy
gamgymeriad,
> gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i
> chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd
o bob
> cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam
> yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y
neges hon nad
> yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol.
>
> * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
* * * * * * *
>
|