Dw i ddim yn synnu, Meg. Ar ol chwe mis yn gweithio fel cyfieithydd rhan
amser i gyngor nid anenwog, prin yr oeddwn i'n medru plygu fy mraich wrth
gario bag siopa, ac 'rwy'n dal i gael trafferth o weithio'n rhy galed, felly
teimlaf fod yr holl bwnc yn bwysig *iawn* i gyfieithwyr.
Un peth pwysig yw eistedd fel bod eich elinoedd yn llorweddol, nid ar oledd,
a'ch arddyrnau heb eu plygu i fyny neu i lawr - gall hyn olygu godi eich
sedd, neu ychwanegu clustog. Mae 'na gyngor ar gael ynghylch sut i eistedd
wrth deipio.
Dylid gymryd pum munud o frec yn gyson, a pheth buddiol arall yw dal eich
dwylo uwch eich pen bob hyn a hyn a'u hysgwyd.
Mae modd prynu gwahanol bethau i leddfu'r poen. Nid wyf wedi'i drio fy hun,
ond 'rwyf wedi gweld erthyglau yn y Daily Post gwpl o weithiau ynghylch rhyw
foi o Sir Fon sydd wedi dyfeisio offer buddiol - "Ergonoimc Cafe", dw i'n
meddwl, yw enw'r busnes, a gellir gweld yr offer ar
http://www.bestofanglesey.com/astro/Ergonomic_Cafe2542.htm
Syniad arall fyddai defnyddio offer adnabod llais.
Teimlaf fod hyn yn mynd i fod yn broblem cynyddol yn y dyfodol, yn arbennig
i gyfieithwyr cyflogedig, lle nad oes modd cymryd brec i roi dillad yn y
peiriant golchi neu wneud rhyw orchwyl arall bob hanner awr, a disgwylir
ichi frwydro ymlaen yn ddi-stop. Efallai bydd cyflogwyr yn agored i bob
math o achosion yn y dyfodol os nad ydynt yn talu sylw i'r peryglon rwan.
Yr eiddoch, o ddifrif,
Ann
----- Original Message -----
From: "Meg Elis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, March 01, 2004 8:16 PM
Subject: Re: Repetitive Strain Injury
> Cytuno'n llwyr, Berwyn. Ac er gwybodaeth "anaf straen ailadroddus" a
> ddefnyddir yn y Brifysgol - ac mi ddylwn wybod - nid yn unig dwi wedi ei
gyfieithu
> nifer o weithiau., ond dwi newydd ddarganfod fy mod yn diodde o'r bali
> peth........
>
> Yn boenus ...
>
> Meg
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
Message has been scanned by Webshield
|