Trafodwyd y term 'case sensitive' mewn cyfarfod o Banel Safoni Termau
Bwrdd yr Iaith ddoe.
Cyd-destun 'case sensitive' oedd dewislen Chwilio o fewn rhaglenni
prosesu geiriau a chwilio ar y we. Rydych chi'n cael y dewis i roi tic i
ddweud a yw maint llythrennau yn bwysig yn y chwiliad (h.y. os ydych chi
am chwilio am 'ELWa' ac nid am 'elwa' er enghraifft neu 'Cais' a nid
'cais').
Penderfynwyd ar 'maint llythrennau' fel term safonol yn y cyd-destun hwn.
Trafodwyd 'lower case' (l.c.) a 'upper case' (u.c.) fel termau
cysylltiedig, a phenderfynwyd *mewn cyd-destun technegol pan nad yw
'llythrennau bach' a 'phriflythrennau' yn gwneud y tro* i ddefnyddio
'bachlythrennau' ac 'uwchlythrennau'.
Cyn i neb holi, defnyddir 'isysgrif' ac 'uwchysgrif' am 'subscript' a
'superscript' felly ni ddylai'r termau hyn gael eu cymysgu gyda'r rheiny.
Delyth
--
Delyth Prys
e-Gymraeg / e-Welsh
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru,Bangor /
University of Wales,Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
[log in to unmask]
+44 (0)1248 38 2800
|