Wedi methu cael gafael ar Liz Saville na Marian Jones ond roedd modd gadael
neges i Marian Jones a gofynnais iddi fy ffonio os oes gwybodaeth ganddi am
y Termau Trin Gwallt a'r Termau Adeiladwaith.
Rwy'n gweithio ar ddwy ddogfen sy'n ymwneud ag adeiladu a gosod brics ond
rwy'n dod i ben yn syndod o dda ar hyn o bryd rhwng Geiriadur yr Academi a'r
Termiadur, felly diolch eto am y rheiny.
Mae'n debyg, wedi chwilio'n ofer ar www.gwales.com , fod Termau Adeiladu
allan o brint. Yn ôl Dyfrig, ein llyfrwerthwr lleol, nid ydynt bellach yn
nodi bod llyfr allan o brint, maent yn ei ddileu o'r rhestr yn gyfangwbl.
Os nodir 'nid yw ar gael ar hyn o bryd' (neu rywbeth fel'na) mae'n golygu
nad oes stoc ganddynt ond bod modd ei gael o rywle arall.
Rhof wybod os daw unrhyw wybodaeth bellach.
Gyda diolch
Elin
|