Trafodwyd ychydig o dermau adeiladu dan yr un pennawd ar y 10fed ac 11eg o
Fedi 2002, a bu trafodaeth ar ambell i derm unigol ers hynny.
Mewn rhan o neges ar 30 Mehefin eleni, gan gyfeirio at eirfaoedd Sgiliaith
ar y we, dywedais:
"Nid yw Termau Trin Gwallt ar y we, ond ceir y rhestr gan
[log in to unmask] (mae hi'n chwilio am y fersiwn electronig
i'w anfon ataf).
Mae Termau Adeiladwaith ar y gweill.
Tybed a oes 'na rywun o Sgiliaith yn ymwybodol o'r ymholiadau ynghylch
termau adeiladu sy'n codi yn ein trafodaethau ni o dro i dro?"
Ni chafwyd ymateb i'r cwestiwn olaf, ac 'rwyf newydd edrych ar y wefan ac yn
methu gweld naill ai Teramau Trin Gwallt na Thermau ADeiladu yno eto.
Efallai y byddai'n werth cysylltu a Choleg-Meirion Dwyfor a gofyn a oes 'na
rywbeth ar gael ar bapur - a rhoi gwybod i'r gweddill ohonom os oes!
Ann
----- Original Message -----
From: "Elen Mererid Watt" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 05, 2004 12:53 PM
Subject: Re: Termau adeiladu
Cyhoeddwyd 'Termau Adeiladu' gan y Ganolfan Astudiaethau Iaith,
Llangefni yn 1993 ac mae'n eitha' defnyddiol.
Mererid
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
Elin Meek
Sent: 05 February 2004 12:57
To: [log in to unmask]
Subject: Termau adeiladu
A wyr rhywun am restr o dermau adeiladu?
Diolch am unrhyw gymorth
Yn sownd mewn sment
Elin
Message has been scanned by Webshield
Message has been scanned by Webshield
|