Gall "bar" olygu amrediad prisiau stoc dros gyfnod penodedig - e.e. pan
fydd pris cyfranddaliadau cwmni yn symud o £x i £y dros gyfnod o awr, neu
ddydd, neu beth bynnag. Felly, byddai prynu neu werthu stoc oddimewn i'r
amrediad yn fasnachu oddimewn i'r bar - h.y. "bar trading".
Ar y llaw arall, wrth gwrs, os mai'r ferf "to bar" sydd yma mae'r ystyr yn
wahanol - mae cyfnodau pan na chaniateir i reolwyr cwmni ddelio yn ei
stoc, fel arfer ychydig cyn i'r canlyniadau blynyddol gael eu cyhoeddi.
|