Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad ydw i'n arbenigwr ar y maes hwn ychwaith...ond
oes yn wir mae trafodaeth wedi bod o'r blaen. Diolch am dynnu fy sylw at hyn
Dafydd - mae'n rhaid fy mod wedi anghofio popeth am yr archifau. Cynigiwyd
yr ansoddair 'deurywiol' am 'bisexual' er mwyn gwahaniaethu rhwng hyn a
'hermaphrodite' (deuryw) ond nid oes enw'n cael ei gynnig am 'bisexuals' hyd
y gwelaf.
O ystyried mai 'deurywiol' fyddai 'bisexual', gellid dilyn yr un patrwm â
'trawsrywiolyn/trawsrywiolion' a defnyddio 'deurywiolyn' a 'deurywiolion'
felly er mwyn cael enw a thalfyriad twt yn Gymraeg - LHDTh, neu fel arall,
am fod y termau hyn - er eu bod yn dwt - yn reit anodd i'w dweud (yn enwedig
os ydych yn 'gwrw-gydiwr' - gweler neges hwyliog Berwyn yn yr archifau!),
gellid cynnwys y gair 'pobl' bob tro cyn yr ansoddeiriau - '(mudiad/cymuned)
pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol' ac yna naill ai LHDdTh fel
talfyriad Cymraeg neu ddefnyddio'r talfyriad Saesneg LGBT.
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 23 February 2004 10:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: LGBT
> Newydd edrych yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith a 'deurywiaid' y mae Robin
> Léwis yn ei roi am ‘bisexuals’ hefyd.
Mae hyn wedi ei drafod o'r blaen.. Er mor wybodus yw rhai fel Robyn
dydyn nhw ddim yn arbennigwyr ar bopeth!
|