Wnes i ddim argymell "tshicin nygets" - wir!!!
Dweud wnes i mai dyna oedd y plant yn ei ddweud!
Mae ciwbion iâr/cywbion yn sicr y fachog - os nad yn ddisgrifiad
manwl-gywir o siâp yr erchyllbethau.
Tybed a oes rhyw aelod o'r cylch yn nabod rhywun mewn awdurdod ym Mhobl
y Cwm? Maen nhw fel petaen nhw'n cael ambell ymgyrch i wthio rhyw air
neu ymadrodd "Cymreig" - fel "carco" ac "ymdopi".
Bydd pawb yng Nghymru'n bwyta "cywbion" cyn pen y mis!
Cofion
Siân
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of staffdld
Sent: 11 February 2004 12:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: chicken nuggets
Gan ategu greddf y cyfrannydd diwethaf at naturioldeb a llyfnrwydd
ymadrodd yn
hytrach na chywirdeb ieithyddol trwsgl ( - ond heb fynd mor bell â hi
wrth
argymhell "tshicin nygets" - ych-a-fi !) ga'i awgrymu gair bachog,
doniol ond
pwrpasol a glywais gan gyd-athro sef - "cywbion": rhyw chwarae ar eiriau
rhwng
"cyw" a "ciwb" sy'n cyfleu'r ystyr ar ei ben. Os nad yw hwn at ddant
(fel
petai!) beth am gadw'n agos at ei gynildeb gyda rhywbeth cywirach megis
"ciwbion iâr" ? Pam fod rhaid trosi "nuggets" mor slafaidd ffyddlon?
Onid yr
ystyr, a'r synnwyr sy'n bwysig, nid goruchafiaeth ymadrodd Saesneg ?
Wedi'r
cyfan, "less is more" fel y dwedodd Orwell - er nad am "gywbion" chwaith
!
LESLIE DAVIES. Aberdâr.
>===== Original Message From Discussion of Welsh language technical
terminology and vocabulary
<[log in to unmask]>
=====
>Mae'n well gan fy mhlant i “Tshicin nygets” – rwy wedi rhoi’r gorau i
>dreio bod yn “ieithyddol gywir” ers i mi gael fy sbeitio am ddweud
"Mici
>Llygoden”!
>
>Beth am “Nygets cyw iâr” neu “Nygets ffowlyn” (yn dibynnu ar yr ardal)
–
>mae’n fwy naturiol o lawer.
>
>
>
>
>
>Cofion
>
>Siân
>
>
>
>-----Original Message-----
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Pennawd Cyf.
>Sent: 10 February 2004 16:27
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: chicken nuggets
>
>
>
>"Cnepynnau cyw iâr" bydd fy mhlant i yn eu bwyta.
|