Meddai Tegwen: "...mae defnyddio 'lleihau' (neu 'ostwng') o flaen berfenw yn swnio'n chwithig - dwi'n teimlo bod angen dweud rhywbeth fel 'gostwng lefel troseddu"
Mae'n ddrwg gen i fod yn bedantig, ond dyna'r union reswm fyddwn ni'n defnyddio "trosedd" yn hytrach na "troseddu". Tydan ninnau ddim yn hoffi'r gair ychwaith, ond oherwydd yr holl broblemau sy'n codi yn sgil defnyddio troseddu neu troseddau ar drail "trosedd" (ac rydan ni'n gorfod cyfieithu'r gair yn aml), rydan ni bellach yn defnyddio trosedd er hwylustod. Mae o'n hollol ddealladwy ac mae nifer o gynseiliau ar ei gyfer. Gweler y cyfieithiad o Crime and Disorder Act yn GyG (Deddf Trosedd ac Anhrefn) a War Crime (Trosedd Rhyfel - nid Troseddau Rhyfel!) hefyd yn GyG.
Ysgrifennodd Delyth Prys lith hynod ddysgedig ar hyn yn ystod y drafodaeth helaeth a gafwyd rai misoedd yn ôl. O'r hyn ddaru ni ei ddarllen o ddadansoddiad Delyth, tydan ni ddim yn anghywir yn defnyddio "Trosedd", a byddwn yn parhau i wneud hynny hyd nes bydd Delyth yn dweud ein bod wedi camddeall ei dadansoddiad. Mae'n rhaid cael gair fel "ymbarel" ar gyfer Crime yn Gymraeg - rydan ni'n dod ar draws y gair sawl tro bob dydd a thrafodwyd y gair hyd syrffed yma cyn i mi ddod yma i weithio. Roedd "trosedd" wedi hen ennill ei blwy yma fel y "gair ymbarel" ers tro.
Er gwybodaeth, rwyf wedi cynnwys dadansoddiad Delyth isod:
Wn i ddim a fyddai'n help meddwl am enghreifftiau David fel enw rhif
(count noun) ac enw cynnull (mass noun). Mae modd rhifo enwau rhif (one crime, two crimes etc) ond nid enwau cynnull (e.e. 'crime' yn gyffredinol).
Yn aml iawn fe welwch chi fod y Gymraeg yn defnyddio berfenw lle ceir enw cynnull yn Saesneg, ond mae'n rhaid cael enw, ac enw sydd yn medru cymryd ffurf luosog, yn Gymraeg i gyfieithu enw rhif yn Saesneg. Dyna pam mae rhai o'n geiriaduron termau diweddar ni yn dechrau nodi 'mass noun' a 'count noun' (e.e. Termau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc) ac y gwelwch chi ferfenw yn Gymraeg i gyfateb i'r enw cynnull yn Saesneg. Mae The New Oxford English Dictionary yn cynnwys adran ar 'mass nouns' a 'count nouns' ac yn disgrifio enwau felly. Am drafodaeth am hyn yn Gymraeg gw. Gramadeg Y Gymraeg Peter Wynn Thomas adran 4.23.
Mae 'trosedd' yn ddiddorol, ac mae'n amlwg fod rhai pobl yn ei ddehongli fel enw cynnull, ac eraill am weld y berfenw 'troseddu' neu'r ffurf luosog yno. Yn ol Geiriadur Prifysgol Cymru, mae'r -edd ar ddiwedd y gair yn elfen haniaethol, fel yn 'mawredd' a 'trugaredd'. Mae'r rhain yn enwau cynnull (er bod 'trugaredd' yn medru bod yn enw rhif hefyd - cf.'truagreddau') ond dydw i erioed wedi clywed 'mawreddau'. Nid oes enghreifftiau clir o 'trosedd' fel enw cynnull yn GPC ond mae'n bosib iddo gynt gario ystyr felly, ond fod yr ystyr hwnnw bellach wedi gwanio a bod defnyddio'r berfenw i gyfleu ystyr 'enw cynnull' yn fwy cyffredin.
John
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 24 February 2004 17:08
To: [log in to unmask]
Subject: Re: crime reduction
Mae 'lleihau troseddu' yn sicr yn swnio'n well na 'lleihau trosedd', ond mae defnyddio 'lleihau' (neu 'ostwng') o flaen berfenw yn swnio'n chwithig - dwi'n teimlo bod angen dweud rhywbeth fel 'gostwng lefel troseddu'.
Tegwen
----- Original Message -----
From: Eldred Bet <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, February 24, 2004 10:45 AM
Subject: Re: crime reduction
> Ie Lleihau a ddefnyddir yma hefyd ond ein bod ni'n defnyddio troseddu
> yn hytrach na 'trosedd'.
>
> Bet
>
> -----Original Message-----
> From: Puw, John [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 24 February 2004 10:44
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: crime reduction
>
>
> Magi
>
> Lleihau Trosedd oedd y farn pan drafodwyd hyn gyda'r uwch swyddogion
> (er fod yr uned am ddefnyddio Gostwng!!!)
>
> John
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 24 February 2004 10:29
> To: [log in to unmask]
> Subject: crime reduction
>
>
> Wyt ti yna bore ma John, yn bennaf? Pa derm sy'n dderbyniol am Crime
> Reduction ar hyn o bryd? Gan fy mod yn hynod o barchus tydwi yn gwybod
> dim am y termau ma yn ymwneud a phobl ddrwg..... nid fod hynny yn fy
> atal rhag cyfieithu darn, wrth gwrs :) magi
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
> angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r
> wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
> gyfreithiol freintiedig. Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r
> sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch
yn
> dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant
> sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, fe'ch
> hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu,
> dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. Fe all fod gwneud hynny
> yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the
> view of North Wales Police. The information contained in this
> communication is confidential. It may be legally privileged.
> It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify originator and
erase
> this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent
> responsible for delivering it to the intended recipient, you are
> hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or
> copying of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be
> unlawful.
>
> E-MAIL CONFIDENTIALITY STATEMENT
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the
> view
of Dyfed-Powys Police. It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify the originator
> and
erase this e-mail from your system. If you are not the intended recipient or the
> employer or agent responsible for delivering it to the intended
> recipient,
you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or
> copying of the e-mail is strictly prohibited. This e-mail and any
> files
transmitted within it have been checked for all known viruses. The recipient
> should still check the e-mail and any attachments for the presence of
viruses, as Dyfed-Powys Police accepts no liability for any damage caused by any virus
> transmitted by this e-mail.
>
> DATGANIAD CYFRINACHEDD E BOST
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Dyfed-Powys. Bwriedir yr e-bost
> ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr
> e-bost
hwn trwy gamgymeriad, dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich
> system os gwelwch yn dda. Os na'i fwriadwyd ar eich cyfer chi ac nid
> chi
yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu,
> lledaenu,
dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. Archwiliwyd yr e-bost hwn
> ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef am firws. Serch hynny,
> dylai'r
derbynnydd hefyd archwilio'r e-bost a'r ffeiliau sydd ynghlwm am firws
> oherwydd nid yw Heddlu Dyfed Powys yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw
> ddifrod
a achosir gan unrhyw firws a drosglwyddir trwy gyfrwng yr e-bost hwn.
Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
|