Three quarter yw canolwr neu asgellwr. Wing-threequarter yw aelod o'r
trichwarterwyr sy'n chwarae ar yr asgell. Asgellwr yw'r term cywir
felly, a chanolwr yw'r term cywir am threequarter (oni bai bod rhywun am
anghytuno).
Geraint Criddle
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Glenys M.
Roberts
Sent: 26 January 2004 15:46
To: [log in to unmask]
Subject: wing-threequarter
Help! Rwy'n siw^r bod trichwarter ohonoch o leia yn deall mwy am rygbi
na fi. Wedi gweld #three-quarter [back] trichwarterwr (trichwarterwyr)
m# yn GyrA. Ydy hyn yn rhywbeth gwahanol? Mae'r darn yn cyfeirio at
rywun oedd yn chwarae rygbi yn y 1930au. Mae gen i restr o'r safleoedd
sy'n arferol heddiw, sy'n cynnwys 'asegllwr' a 'blaenasgellwr' ond wela
i ddim byd sydd fel petai'n cyfateb i 'wing- threequarter'. Ond be wn
i? Mae 'na ffynonellau y gallwn eu holi heno, ond os gall rywun helpu yn
y cyfamser baswn yn ddiolchgar.
Glenys
|