"light knot-grass": un ai mae'n enw hollol fympwyol, *neu* daw'r enw un ai
o'r olwg ar y gwyfyn (h.y. ei fod yn debyg i ganclwm) neu oherwydd mai ar y
canclwm y bydd yn bwydo. Yn ol y llun ohono yn "A field guide in colour to
Butterflies and Moths" (I. Novak, 1980), tud. 179, nid yw'n debyg i'r
canclwm nac i unrhyw blanhigyn arall. Dywedir ei fod yn "feeding on a
variety of herbs", ac efallai fod y canclwm yn un ohonynt felly. Nid oes
dim yn y gwyfyn nac yn y chwilen yn awgrymu unrhyw "gwlwm". Awgryma'r enw
Lladin "Acronicta rumicis" mai a^ dail tafol y dylid ei gysylltu.
Enw hollol fympwyol yw "cwlwm y rhos", y gellid ei roi ar sawl pryfyn bach,
a hollol fympwyol yw "addurn y cen" am "Brussels lace moth". Cymeraf fod y
ddau enw'n dod o restr faith o enwau hollol fympwyol ac anaddas y bu
Cymdeithas Edward Llwyd yn ei hystyried flynyddoedd yn o^l ac nas cyhoeddodd
gan aros y dydd y ceir rhestr wedi ei threfnu'n wyddonol o enwau yn dwyn
rhyw berthynas benodol a^'r pryfed dan sylw.
Yn y cyfamser, mae'n rhaid i Geraint ddefnyddio rhywbeth, ac awgrymaf y
dylai ddefnyddio'r enwau y mae o eisoes wedi'u hawgrymu, gan fod modd eu
holrhain yn o^l at yr enwau Saesneg, peth nad yw'n bosibl o ddefnyddio'r
enwau uchod o restr nad yw ar gael i'r cyhoedd.
Bruce
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 22, 2004 4:30 PM
Subject: Re: Light knotgrass moth, Brussels lace moth, keeled skimmer
dragonfly
> Gai ofyn beth yw ystyr "yn bendant"? Ydy'r enwau hyn ar ryw restr
> gydnabyddedig?
>
> O ran "Cribwr drumiog", onid gwrywaidd yw "cribwr"? Ni welaf sut y
> gallai
> "cribwr" fod yn gyfieithiad o "skimmer".
>
> Bruce
> ----- Original Message -----
> From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, January 22, 2004 12:14 PM
> Subject: Light knotgrass moth, Brussels lace moth, keeled skimmer
> dragonfly
>
>
> > Am ryw reswm daeth y neges yma ataf fi'n bersonol, ond dwi'n ei hanfon
> > ymlaen i'r cylch er mwyn yr archif.
> >
> > Geraint
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Bethan Jones" <[log in to unmask]>
> > To: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]>
> > Cc: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> > Sent: Thursday, January 22, 2004 9:49 AM
> > Subject: Fw: Cais am gymorth
> >
> >
> > > Geraint,
> > > Fel yr addewais, fe holais Hefin - a dyma ei ymateb.Dwi braidd yn
> lecio
> dy
> > > awgrym di o sbonciwr main, gan fod defnyddio sbonciwr yn ffordd
> ddeheuig
> > > iawn o wahaniaethu rhwng y grasshopper a'r groundhoppers.
> > > Hwyl!
> > > Bethan
> > > 01248 723510
> > >
> > > ----- Original Message -----
> > > From: "Hefin Jones" <[log in to unmask]>
> > > To: "Bethan Jones" <[log in to unmask]>
> > > Sent: Wednesday, January 21, 2004 9:21 PM
> > > Subject: Re: Cais am gymorth
> > >
> > >
> > > Gobeithio bydd hyn o help
> > > Hefin
> > >
> > >
> > > Tybed oes gen ti bum munud i edrych ar yr isod, a fedri di awgrymu
> enwau
> > > Cymraeg ar eu cyfer?
> > > Slender grashopper dim synaid ond efallai Ceiliog rhedyn main (gan
> mai
> > main
> > > a ddefnyddir am "slender" mewn gwyfynnod)
> > > Light knot grass moth Cwlwm y rhos yn bendant
> > > Keeled skimmer dragonfly Cribwr drumiog 'rwy'n credu
> > > Brussels lace moth Addurn y cen yn bendant
> > >
> > > Diolch am bob cymorth
> > > Hwyl!
> > > Bethan
> > > 01248 723510
> > > **************************************************
> > > Dr Hefin Jones
> > >
> > > Biodiversity and Ecological Processes Research Group
> > > Cardiff School of Biosciences
> > > Cardiff University
> > > PO Box 915
> > > Cardiff CF10 3TL
> > > United Kingdom
> > >
> > > Grwp Ymchwil Bioamrywiaeth a Phrosesau Ecolegol
> > > Ysgol Biowyddorau Caerdydd
> > > Prifysgol Caerdydd
> > > Blwch SP 915
> > > Caerdydd CF10 3TL
> > > Y Deyrnas Unedig
> > >
> > > Tel/Ffôn:
> > > +44 (0)29 2087 5357 (office / swyddfa)
> > > +44 (0)29 2087 6330 (laboratory / labordy)
> > > Fax/Ffacs: +44 (0)29 2087 4305
> > > e-mail: [log in to unmask]
> > > e-bost: [log in to unmask]
> > >
> > > Web-site:
> > > http://www.cf.ac.uk/biosi/research/biodiversity/staff/hj.html
> > >
> > > Safwe:
> > > http://www.caerdydd.ac.uk/biosi/research/biodiversity/staff/hj.html
> > > **************************************************
> > >
> >
> >
> > Message has been scanned by Webshield
> >
> >
> >
>
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|