Wrth gyfieithu cynllun bioamrywiaeth beth amser yn ôl, aethom at Gymdeithas
Edward Llwyd a chael cyngor eu harbenigwyr ar yr enwau sy'n bod ar lafar
gwlad neu sydd eisoes wedi'u bathu. Hyd y cofiwn, yn aml iawn nid oedd yr
enw Cymraeg yn cyfateb yn union i'r Saesneg.
|