Ysgrifennodd Gwen Rice:
> A oes enw swyddogol?
> Diolch
> Gwen
Cefais fy magu nid nepell oddi yno, ac rwyf wedi clywed "Llwynbedw". Yn
sicr, ceir 'Llwynbedw Gardens' ger croesffordd adnabyddus Birchgrove. Yn
anffodus, nid yw fy nghopi o 'Life on the Heath' gan Gareth Williams yn
y swyddfa gyda fi ar y funud!!! Mae hwnnw'n ffynhonnell wych o wybodaeth
am enwau lleoedd yn yr ardal honno a fu, ar un adeg, yn ehangder mawr o
gaeau heb fawr ddim yno ond ambell ffermdy ac, yn ddiweddarach, gae
rasio ceffylau!!!
Helen
--
H.K.Smith (Helen) [log in to unmask]
(Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask]
* * * *
* * *
* * Cathod/Cats
* * Pianos
* *
*
|