Rwy'n deall ymateb Dafydd gan ein bod ni'n dweud 'biocemeg' ac amryw o
eiriau tebyg heb ystyried am eiliad fod angen treiglo. Beth, wedi'r cyfan, a
ddigwyddai petaem yn treiglo'r llythyren 'm' yn y gair 'micromedr'? Fe
olygai microfedr
'micro-skill' - sy'n beth hollol wahanol ...
Wedi dweud hynny, 'microbrosesydd' sydd yn y Termiadur ac ar sail hynny y
byddwn i'n dadlau dros y ffurf 'biobrosesu'.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 13, 2004 1:39 PM
Subject: Re: Bioprocess Engineering
> Rhaid i mi ddweud fod 'bioproses' yn swnio'n fwy naturiol i mi.
> dafydd
>
|