Un o siociau mawr fy mywyd oedd derbyn llythyr gan y diweddar Athro Thomas
Jones (Aberystwyth) wedi'i gyfeirio ataf yn Ynys-y-bw^l. Nid oeddwn wedi
gweld y sillafiad o'r blaen ac yn sicr nid oeddwn yn gwybod am neb oedd yn
ynganu -bw^l. Deuthum ar draws yr enw eto yn Enwau Afonydd a Nentydd Cymru
R.J.Thomas. Eto yn GPC ceir 'bw^l' yn enw ar fath o be^l. Yng nghyfrol
Glanffrwd ar hanes Llanwynno (y cafwyd cyfeiriadau ati eisoes) mae'n son am
enwogrwydd chwaraewyr pe^l yr Ynys (math ar 'fives' mae'n debyg), ac mae'n
son am y 'plaen pe^l' y tu cefn i'r ty^ tafarn, plaen pe^l = ynys (llain o
dir yn ymym afon) + bw^l math o be^l.
Ystyriwch cymaint tlotach byddai limrig Idwal Jones heb y to bach
Os mai tywyll yw gwy^r Honolulu
Os mai du ydyw’r Kaffir a’r Swlw
Mae ‘na ddynion mor ddu
Tan ddaear, ‘lwch chi
Ym Merthyr neu Ynysybw^l w.
Nad yw, gwaetha'r modd yn profi dim byd.
Brodor o'r 'Bwl.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 22 January 2004 09:43
To: [log in to unmask]
Subject: Ynys-y-bwl
A oes to ar yr "w" yn Ynys-y-bwl?
Oes, yn ôl y Gazetteer - Nac oes, yn ôl Map yn y Gymraeg - ac mae'n anodd
gwybod ar y we!
Roeddwn i'n meddwl mai "Ynys-y-bwl" ag "w" fer roedd pobl yn ei ddweud ond
efallai mai llygriad yw hwn.
Cofion
Siân
********************************************************************************
RHYBUDD: Mae'r wybodaeth sydd yn y neges E-Bost yma yn gyfrinachol ac mae'n bosib y bydd yn gyfreithiol freintiedig. Os nad y sawl a fydd yn darllen y neges yma yw'r sawl y bwriadwyd yr e-bost ar ei gyfer, fe'ch hysbysir drwy hyn y gwaherddir defnyddio'r neges, ei rhannu, ei dosbarthu neu ei hatgynhyrchu gennych chi eich hun neu ar eich anogaeth. Os cawsoch y neges yma trwy amryfusedd, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni ar unwaith a dychwelyd y neges wreiddiol. Nid yw'r wybodaeth sydd yn y neges yma o reidrwydd yn cynrychioli polisi a threfn weithredu'r Cyngor. Os cewch gan y Cyngor hwn ddeunydd heb i chi ofyn amdano neu ddeunydd tramgwyddus rhowch wybod i ni ar unwaith.
Diolch
********************************************************************************
CAUTION: The information in this E-Mail message is confidential and may be legally privileged. If the reader of this message is not the intended recipient you are hereby notified that any use, dissemination, distribution or reproduction of this message by you or at your instigation is prohibited. If you have received this message in error please notify us immediately and return the original message to us. The information in this message does not necessarily represent Council policy or procedure. In the instance of receiving unsolicited or offensive mail from this Council please notify us immediately.
Where information of a sensitive or highly confidential nature is to be communicated, you will be informed that this information will be sent to you in writing and not by E-Mail, unless secure arrangements are made.
Thank you.
********************************************************************************
|