Yng Ngeiriadur Termau Archaeoleg, td 119, rhoir 'caerog' a 'muriog' am
'walled', ac yn yr achos hwn byddwn i'n rhoi 'Yr Ardd Furiog'. Gwell peidio
â chrwydro'n rhy bell oddi wrth y gwreidiol wrth gyfieithu teitlau fel hyn,
yn rhannol am nad oes dim byd i rwystro corff fel y C&G rhag cyflwyno cyfres
o wasanaethau o'r enw Orchard, Vineyard, Rickyard/Barnyard/Granary (diolch i
GPC am y rhai ola 'na!) ac ati. Ai fi sy'n sinig wrth feddwl nad oes dim
byd - o reidrwydd - yn tyfu mewn gardd furiog?!
Ac o sôn am Eiriadur Termau Archaeoleg, mae'n debyg na wy^r pawb am
fodolaeth y rhestr ddefnyddiol hon. Os byddwch chi'n cyfieithu deunydd am
(hen hen) hanes, mae'n gaffaeliad mawr. Gwasg y Brifysgol gyhoeddodd ef ym
1999. ISBN 0-7083-1606-9. (Dim pris i'w weld ar y clawr.)
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Elin Meek" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 21, 2004 6:44 PM
Subject: walled-garden
Dim ond diffiniad ohono (dogfen gan City & Guilds):
The Walled Garden is a fast-track qualification administration service for
City & Guild's approved centres.
Des i ar ei draws neithiwr - a'i adael! Wedi bod yn meddwl falle y bydde
rhywbeth ar drywydd tir wedi'i amgáu yn syniad - e.e. perllan, gwinllan,
ydlan -
Y Berllan, falle, er nad yw e'n gyfieithiad llythrennol? Oes unrhyw un
wedi bod yn y 'Walled Garden' ?
Elin
|