Mae'n amlwg i mi fod Lletya'n cael ei ddefnyddio'n eang - dyma rai
enghreifftiau o ddefnyddio lletya yng nghyd-destun y rhyngrwyd.
http://www.cymru1.net/cymraeg/extras/tools.php
Dylai defnyddwyr ein gwasanaeth ***lletya*** proffesiynol sydd gan olygydd
HTML eisoes fynd yn uniongyrchol i'r adran SGRIPTIAU
http://www.mondesigns.co.uk/
Lletya Gwe
http://www.communityprogrammes.org.uk/wa/canolfan/cymuned/
Bydd yn darparu gwybodaeth ar wahanol offer y we y gellir eu defnyddio i
greu gwefan a bydd hefyd yn edrych ar atebion ***lletya*** posibl.
http://www.menai.ac.uk/edysgu.asp
Fodd bynnag, gellir hefyd defnyddio Learnwise i letya a gweinyddu cyrsiau
cyfan sydd yn cynnwys nodau yn ogystal ag aseiniadau (wedi eu marcio yn
electronig).
http://www.llgc.org.uk/drych/digido_c01.htm
Dylid ymchwilio i ddichonolrwydd darparu siop-ddigido-un-stop sy'n cynnig
sganio, ANO (Adnabod Nodau'n Optegol neu OCR), metadata, archifo data,
gwe-gynllunio a ***gwe-letya***
http://www.esd-wales.org.uk/cymraeg/welcome.asp
dylunio a ***lletya*** WiSS Cyf © 2003
http://www.cynghanedd.com/seiat/messages/1/386.html
Mae honno'n raglen ardderchog, ond mae angen bas-data MySql a php i'w
gweithredu - nodweddion nad ydynt yn rhan o becyn ***lletya***
cynghanedd.com ysywaeth.
www.bigwales.com/it_cym/internet_marketing.htm
Mae'r geiriadur cynhwysfawr rhyngrwyd yma nid yn unig yn darparu diffiniadau
a gwybodaeth safonol am farchnata rhyngrwyd, ond hefyd yn ***lletya***
cysylltiadau â chasgliad o adnoddau gwe-seiliedig cysylltiol
http://www.ace-training.co.uk/cymraeg/cynllunwe.htm
Fel arall, gallwn ni ****letya'ch gwefan drosoch chi.
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, December 16, 2003 8:13 PM
Subject: Re: hosting
> > Fe fyddai'n dipyn o newid i symud oddi wrth y term 'lletya', ac fel
> > Muiris, wela i ddim o'i le ynddo.
>
> Tipyn o newid i bwy? Does prin neb yn defnyddio'r term (na unrhyw
> dermau cyffelyb) a hoffwn i weld ychydig mwy o ddefnydd yn y 'byd go
> iawn' cyn llosgi'r peth mewn i ddogfen 'swyddogol' akademiks.
|