Fel dysgwr fy hun, byddwn i'n dweud bod "Cymraeg syml" neu "Cymraeg hawdd"
yn disgrifio'r hyn sydd ar gael. Hefyd, o gyfieithu'r arwydd Saesneg yn
lythrennol, byddai pobl yn dysgu rhywbeth yn lle mynd i feddwl bod "i bawb"
yn golygu "easy"! Mae "Cymraeg i bawb" braidd yn amwys ac yn swnio fel
slogan, nid disgrifiad.
Y peth oedd yn fy ngwylltio i pan ddechreuais godi nofelau Cymraeg o'r
Llyfrgell oedd y ffaith y byddai pob broliant yn son an darddiad yr awdur, y
faith bod y llyfr wedi haeddu ennill yn yr eisteddfod a'r eisteddfod
oherwydd ei sensitifrwydd, dawn ddisgrifio ayb, ayb, ond heb roi unrhyw gliw
ynghylch ei gynnwys.
Mae pethau wedi gwella, ond a oes angen i rywun 'sgwennu rhyw lawlyfr i
glasuron y Gymraeg - ryw hanner tudalen ynghylch pob un , yn rhoi
amlinelliwad o'r *stori* fel y gall dysgwr benderfynu a yw llyfr yn mynd i
fod yn werth yr ymdrech o'i ddarllen?
Ann
----- Original Message -----
From: "Gwynallt Bowen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, December 12, 2003 3:47 PM
Subject: Re: Easy Welsh
> Cymraeg syml?
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
Message has been scanned by Webshield
|