Ond pe bai bod yn gywir yn bwysig, beth fyddai ar ôl gennyn ni i fod yn
sarci yn ei gylch?
O na bai bod yn gywir yn fwy o flaenoriaeth gan bawb!
Oeddwn i i fod i dreiglo 'bod' ar ôl y ddau 'bai' yma? Os nad oeddwn, pam
treiglo ar ôl 'bai' yn 'oni bai'? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y naill 'bai'
a'r llall?
Y trueni am waith TJ Morgan yw ei fod yn cael ei ddenu weithiau i esbonio
pethau yn nhermau ystyr (a sylwch ei fod yn gwrthod enghreifftiau sy ddim yn
cyd-fynd â'i ddadleuon, gan ddweud eu bod yn "amheus"). Dyw 'oni bai' ddim
yn peri ffurf gysefin neu ffurf dreigledig am ei fod yn *golygu* hyn yn
hytrach na'r llall. Mae pawb yn gwybod mai seineg sbardunodd y treigladau,
felly y cwestiwn [i mi beth bynnag] yw hyn, ai ffurf yn gorffen mewn
llafariad oedd y tu ôl i 'bai' - a fyddai'n sbarduno treiglad, ynteu ffurf
yn gorffen mewn cytsain - a ddylai olygu cadw'r cysefin.
Dwy ddim yn gweld dim byd yn Lewis a Pedersen i helpu, na dim byd yn Welsh
Grammar John Morris Jones chwaith. Yr unig beth sydd gen i yw tabl T Hudson
Williams o derfyniadau berfau Indo-ewropeg, (A Short Introduction to the
Study of Comparative Grammar, t72), sy'n dweud y byddai'r terfyniad -ti wedi
cael ei ychwanegu at fôn y ferf berthnasol i greu ffurfiau trydydd unigol y
mynegol a'r dibynnol.
Mae'n rhaid bod gan Eric P Hamp nodyn ar hyn rywle yn Studia Celtica neu
Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd - pwy sy'n fodlon mynd i chilio?
----- Original Message -----
From: "Richard Crowe" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, December 05, 2003 1:23 PM
Subject: Re: oni bai
> Os yw cywirdeb yn bwysig, mae'n bwysig......
>
|