D.Prys <[log in to unmask]>:
>'centimetr' sydd yn y Termiadur Ysgol ac felly yn cael ei ddefnyddio yn
>ysgolion Cymru am y rhesymau a amlinellodd Berwyn.
>Pan wnaethon ni arolwg o ynganiad cyn-ddisgyblion ysgolion cyfrwng
>Cymraeg a oedd yn fyfyrwyr ym Mangor roedden nhw yn defnyddio ynganiad
>'c' (benthyciadau dysgedig Groeg/Lladin) yn hytrach na 's' (benthyciadau
>llafar drwy gyfrwng y Saesneg) yn ddi-feth mewn termau mathemategol a
>gwyddonol, hyd yn oed 'cytoleg' yn hytrach na 'seitoleg' - a oedd yn
>dipyn o syndod i ni (ond roedden ni'n falch iawn o hynny).
>
>Delyth
Ga i achub ar y cyfle i ofyn beth yw'r ynganiad arferol ar gyfer
'nitrogen'/'hydrogen'/'ocsigen' ayb? ( h.y. 'g' neu 'j' )
|