O bori drwy dudalennau ar y We, mae'n debyg bod 'Fastbank' neu 'FastBank' yn
nod masnachu - ceir y llythyren 'R' mewn cylch ar ei ôl mewn sawl enghraifft
ar y We. Rwy'n cofio i mi gael trafodaeth ar fy mhen fy hun (!) yn y Cylch
Trafod am ryw derm tebyg a ddefnyddir gan BT yn gynharach eleni - TypeTalk
oedd y term. Mi holais y cylch a oedd unrhyw un wedi dod ar draws term
Cymraeg, ac wedyn fe welais mai 'TypeTalk' a ddefnyddir mewn testunau
Cymraeg ar y We ac fe atebais y neges wreiddiol i gadarnhau hynny. Ni
chafwyd ymateb pellach wedyn. Enghraifft arall yw 'Freetext' a 'BT
TextDirect' - y termau Saesneg a ddefnyddir mewn testunau Cymraeg yn y Llyfr
Ffôn.
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of D.Prys
Sent: 05 November 2003 12:59
To: [log in to unmask]
Subject: fastbank
Rwy newydd gael ymholiad am y term hwn.
Yr ystyr yw ffordd i roi arian mewn bagiau i mewn i'r banc yn gyflym.
Awgrymais 'banc cyflym' gan ddilyn yr egwyddor 'pam chwilio am derm
cymhleth pan fo term syml yn gwneud y tro'.
Ond rhag ofn bod 'banc cyflym' yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cysyniad
arall, dyma ofyn i'r cylch a oes rhywun wedi dod ar ei draws mewn
cyd-destun gwahanol, neu hyd yn oed eisoes wedi'i ddefnyddio am
'fastbank', neu wedi clywed term gwahanol yn cael ei ddefnyddio.
Chwiliais y we gyda chymorth Gooogle, ond doedd dim enghraifft o 'banc
cyflym' i weld yno.
Delyth
D.Prys [log in to unmask]
|