Wi wedi gwneud sawl cyfieithiad bach ar ran y Comisiynydd Gwybodaeth, sef yr
adran a sefydlwyd gan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i gadw llygad ar y
cynlluniau hyn.
Roedd y deunyddiau Cymraeg ges i ganddyn nhw yn batrwm ar y dechrau yn
defnyddio 'cynllun cyhoeddi' a 'cynllun cyhoeddiadau' - sy'n awgrymu bod dau
arall o leia wedi bod yn gweithio ar y deunyddiau Cymraeg cyn fi. O'r ddau
yna, dewis 'cynllun cyhoeddiadau' wnes i, ac rwy'n meddwl mai dyna sydd ar
gael fynycha erbyn hyn yng ngwaith y Comisiynydd Gwybodaeth.
Dau o'r pethau oedd gen i yn fy meddwl wrth ddewis oedd y posibilrwydd
(annelwig ddigon) y gallai rhywun rywbryd fathu 'publishing scheme', a'r
gred bod y cynllun o dan sylw yn nes at fod yn 'rhestr gyhoeddiadau' na
'dull cyhoeddi'.
Erbyn hyn, wi wedi sylweddoli bod adran 19 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn
diffinio'r cynllun o dan sylw fel hyn:
"scheme which relates to the publication of information by the authority
and is approved by the Commissioner (in this Act referred to as a
"publication scheme"),
ac mae'n debyg y byddai "cynllun yn ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth..." yn
nes ati na "cynllun yn ymwneud â chyhoeddiadau...".
Oes gan rywun awgrym am sut i droi'r cloc yn ôl, i fi gael newid fy
mhenderfyniad?
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Sunday, November 02, 2003 11:11 AM
Subject: Re: Publication Scheme
> Fe all problem godi, wrth gwrs, os bydd sefydliad fel y Cynulliad yn so^n
am
> 'publishing scheme' yn ogystal a^ 'publication scheme' (gall
biwrocratiaith
> fod yn llawn o ryw fa^n wahaniaethau o'r fath), ond ceisio cadw at y
berfenw
> wnawn i.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
> Sent: Saturday, November 01, 2003 9:36 PM
> Subject: Re: Publication Scheme
>
>
> > Diolch Berwyn. Cynllun Cyhoeddi oedd gen i - nes imi sylweddoli fod y
> > penawdau oedd eisoes wedi eu cyfieithu gan y Cynulliad yn defnyddio'r
> > fersiwn arall! Cadw at cyhoeddi fydda'i felly.
> >
> > Catrin
> >
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Saturday, November 01, 2003 9:35 AM
> > Subject: Re: Publication Scheme
> >
> >
> > > Fel rheol, mae'n well gan y Gymraeg ddefnyddio'r berfenw mewn achosion
> fel
> > > hyn. Mae 'Cynllun Cyhoeddi' hefyd yn osgoi'r amwysedd sydd yn y
Saesneg,
> > sef
> > > ai un cyhoeddiad sydd yma - fel y gallai fod os bwriedir cyhoeddi
clamp
> o
> > > gyfrol fawr - neu gyfres o gyhoeddiadau?
> > >
> > > Berwyn
> > >
> > > ----- Original Message -----
> > > From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
> > > To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
> > > Sent: Friday, October 31, 2003 5:09 PM
> > > Subject: Publication Scheme
> > >
> > >
> > > > Mae Cynllun Cyhoeddi a Chynllun Cyhoeddiadau yn cael eu defnyddio ar
> > gyfer
> > > > Publication Scheme (gw Google) - pa un ydych chi'n ei ffafrio a
pham?
> > > >
> > > > Catrin
> > > > (gwin coch plis)
> > > >
> >
>
>
|