> Gyda llaw, 'dw i wedi gofyn yma o'r blaen am gyngor ynghylch chwilio safle'r
> Cynulliad - a'r WDA o ran hynny. ('Dw i wedi anfon e-bost at ryw wasanaeth
> wybodaeth sy' gan y Cynulliad hefyd, ond y cyfan a gefais oedd
> cydnabyddiaeth o'r neges).
Yn anffodus nid yw'r meddalwedd sy'n cael ei ddefnyddio i wneud
archwiliadau mewnol wedi ei cynllunio ar gyfer gwefannau modern, a
does neb (sy'n creu gwefannau) yn fodlon talu am un felly does neb yn
datblygu meddalwedd gwell.
> Onid oes modd chwilio am *ymadrodd*, fel y mae
> yn Google, yn lle geiriau.
Y peth gorau yw i ddefnyddio Google ei hunan
http://www.google.co.uk/advanced_search?hl=cy
Rhoi'r ymadrodd yn y blwch "union gymal" a rhoi 'wales.gov.uk'
yn y blwch "Parthau".
Dyw hyn ddim yn berffaith chwaith ond mae'n gallu helpu weithiau.
|