Goleuni'n torri dros y gorwel o'r diwedd!
Rhaid i mi gnoi cil ar hyn.
Diolch yn dwlpe.
Tim
-----Original Message-----
From: Mark Nodine [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 13 November 2003 20:44
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Absolute / Relative formulę
"Saunders, Tim" wrote:
>
> Diolch o galon am roi sylw i'r pwnc.
>
> Y brithgof sydd gyda fi o Lefel O Ffiseg yw bod 0°K/-273.15°C yn cael ei
> ddisgrifio fel 'sero absoliwt' gan nad yw'n bosib, am resymau sydd mor
glir
> i fi ā thrafodaeth Lewis Edwards ar athrawiaeth yr Iawn, cyrraedd
tymheredd
> is na hyn. Ystyr 'abolute' yng nghyd-destun fformiwlāu, OS wyf wedi deall
> hyn yn gywir, yw bod deilliad y fformiwla ddim yn dibynnu ar ei safle mewn
> cysawd. Os yw'r rhai sy'n dallt y dalltings, chwedl Gwil Bach, yn
> defnyddio'r un term ar gyfer y ddau gysyniad, wrth reswm mi dderbyniaf yn
> ddiamod (wps!). A all rhywun daflu goleuni ar y pwnc?
Dwi'm yn meddwl taw gwahanol yw'r cysyniadau. Yn 'sero absoliwt',
mae absoliwt yn cyfeirio at dymheredd sy'n derfyn i'r rhai sy'n
bosibl. Mewn fformiwla, mae absoliwt yn cyfierio at derfyn y
system gyfurdd yn y daenlen, lle mae rhif negyddol yn amhosibl ynddi.
--Mark
|