Amser maith yn ol, apeliodd y Brifysgol am gywiriadau i CySill/Cysgair cyn
dod a fersiwn newydd allan, ac 'rwyf wedi anfon swmp o gywiriadau o dro i
dro. Er y dylai'r fersiwn newydd - a phob math o ychwanegiadau a
gwelliannau - fod wedi dod allan ar gyfer yr Eisteddfod eleni, maent yn dal
i weithio arno. Dyma'r cyfeiriad i anfon unrhyw sylwadau: Menna Morgan
<[log in to unmask]>
Ann
----- Original Message -----
From: David Bullock <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 13, 2003 12:34 PM
Subject: Re: Eangu
Dau beth bach:
Yn gyntaf, gwell inni gadw mewn cof mai adran *Seicoleg* Prifysgol Bangor
greodd CySill (nid adran y Gymraeg!).
Yn ail, onid Geiriadur Prifysgol Cymru yw'r ffynhonnell awdurdodol priodol i
ateb cwestiynau fel hyn?
(Cymuned ieithyddol od iawn sy'n troi at eiriadur dwyieithog yn unig i
chwilio am awdurdod. Pwy yn Lloegr fyddai'n troi at y "Shorter English and
French Dictionary" i gael dyfarniad awdurdodol ar sillafiad Saesneg yn
hytrach na geiriadur Rhydychen? )
----- Original Message -----
From: Arwel Wynn Owen
To: David Bullock
Sent: Monday, October 13, 2003 12:08 PM
Subject: Re: Eangu
Mi faswn i'n dilyn Geiriadur yr Academi. Mae CySill yn 'derbyn' llawer o
bethau!
Arwel
Message has been scanned by Webshield
Message has been scanned by Webshield
|