Am 10:00 03/10/03 +0100, ysgrifenodd Sian Roberts:
>A all rywun gadarnhau plīs mai yn y ffordd Gymraeg yr yngenir enw'r afon
>uchod ym Mrycheinioig. Mae rhywun arall o'r farn mai "Tarel" yw'r ynganiad.
Dyma tystiolaeth am ynganiad "Tarell" oddi ar wefusau y tribanwr
Ifan Bifan - o Bontneddfechan, Cwmnedd; ond o Langynwyd yn wreiddiol,
felly dydy hi ddim yn dystiolaeth benderfynol, efallai.
CAN - I Robert Clatworthy a'i wraig, ac un arall [...]
gan Evan Bevan
(1803 - 1866;)
[...]
Tra'n tynu mwg o'i bibell,
Fe yrai drwy Gwm Tarell.
A'r ceffyl oedd yn taro ta^n.
Wrth gilio a fla'n y flangell;
Y ceffyl Boxer oedd mor'sceler,
Yno'n tampo maes o demper;
Yn ffri fe ffrwynodd, a'r ffrwyn a dorodd,
O law'r Robyn, - ffwrdd fe redodd -
I law'r i'r ffo^s y groes i'r ffyrdd,
A'r gadair wyrdd a foelodd!
[...]
Fynnon: Cofiant a Gweithau Evan Bevan (1803 - 1866) Cardiff, 1899
--
Theo Brueton
Dyddiadur Llundain:
http://www.anoeth.demon.co.uk/digwyddiadur.html
|