Diolch
Mae o'n sicr yn well na plyg!! Roeddwn wedi ei weld, ond tydw inna ddim yn
siwr beth yw'r sail gan mai "technical" yw tchn - ydi o'n (y geiriadur, nid
Bruce) cyfeirio at joint fel un o'r sigarets hir tew "mwg drwg" yna oeddan
ni'n eu gweld a'u harogli, os nad yn eu hanadlu, ddyddiau Coleg? Neu a oes
rhyw ystyr arall i'r joint yma??
Mae Cantorion Colin Jones yn cynnal noson yn Neuadd William Ashton nos
Sadwrn - os byddi yno, gad i mi wybod o flaen llaw a mi ganwn ni un gân yn
arbennig i chdi fel arwydd o werthfawrogiad! - mae croeso i bawb ddod yno
wrth gwrs - dechrau am tua chwarter wedi saith yr hwyr. Gwledd o ganu gan
gôr o leisiau gwefreiddiol.
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: "John Puw" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, October 15, 2003 2:37 PM
Subject: wrap
> Lapiad ddaeth i'm meddwl i gyntaf, ac wedi edrych yn GyrA, gwelaf ei fod
> yno o dan wrapper 3. Tchn - joint. Ai'r un fath o joint? Byddai'n
> gwneud y tro dybiwn i.
>
>
|