Yn y De, y mae v- gychwynnol mewn ambell fenthyciad o'r Saesneg lle y ceir
f- gychwynnol mewn Saesneg safonol. Mae hyn yn awgrymu iddynt ddod i'r
Gymraeg o Saesneg De-orllewin Lloegr lle y mae v- i'w chlywed o hyd mae'n
debyg yn lle f-(er enghraifft, ar lafar Gwlad yr Haf ).
Ceir enghraifftiau hefÿd yn Saesneg safonol - vixen (cadnöes) wrth ochr fox
(cadno); weathervane (ceiliog y gwynt) sydd yn cyfateb i'r Almaeneg die
Fahne (= baner).
Enghraifft arall yng Nghymraeg y De yw ffroga (= llyffant) wrth ochr broga,
brogath, o ffurf wreiddiol froga ag 'f-'.
Yn ôl Geiriadur y Brifysgol:
feri - gweler fferi
(tudalen 1283) fferi - Digwydd yr hen ffurf feri (sy'n gyfochrog â fferi) yn
yr enw lle Glanyferi (Ferryside, sir Gaernarfon)
_________________________________________________________________
MSN 8 with e-mail virus protection service: 2 months FREE*
http://join.msn.com/?page=features/virus
|