Oes rhaid i'r term am 'binge drinking' gyfleu bwriad a diffyg rheolaeth? Nid yw'r term Saesneg yn cyfleu'r naill na'r llall i mi ac oherwydd yr amwysedd hwn gellir ei ddefnyddio mewn amryw gyd-destunau. Fel Tim a John, rwyf finnau'n hoff o'r dewis 'pyliau o yfed' ond fel yr awgrymodd Glenys nid yw'n cyfleu'r elfen o orwneud. Efallai y byddai 'pyliau o oryfed/orfwyta' yn nes ati..?
Garmon
|