oes rhywun yn gwybod joc dda - un llinell - addas i blant a phobl ifanc?
Rwyf wrthi'n cyfieithu gwefan i ofalwyr ifanc ac mae nifer o jocs
Saesneg, un llinell, chwarae ar eiriau.....
Dwi'n ddi-hiwmor hollol - ac yn methu cofio beth bynnag,,,,,
Rwyf angen 5 ....
Wedi anfon am lyfr yr Urdd, erbyn y tro nesaf...ond ni ddaw hwnnw am
ddiwrnod neu ddau ac nid oes unrhyw beth ar gael yn fy siop lyfrau leol
ac nid yw google am fy helpu chwaith....
Felly, y jocars yn eich plith, a Duw a wyr, mae digon ohonoch......help
os gwelwch yn dda.....
Byddaf yn ddiolchgar iawn... a dwi'n addo chwerthin.....
Mafi
|