"Crio'n arw" fydda' pawb yn Llanrwst hefyd!! Ac os ca' i ddeud mae o'n
odli'n well!
Dwynwen
----- Original Message -----
From: Watt E Mererid YC /SL <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 03, 2003 4:36 PM
Subject: FW: feeling ten feet tall
Mae'r frawddeg olaf yn newydd i mi
"Pawb yn crio'n arw" fydden ni yn ei ddweud. Pwy oedd y cyfansoddwr -
dim clem!
-----Original Message-----
From: Saunders, Tim [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 03 September 2003 16:25
To: [log in to unmask]
Subject: Re: feeling ten feet tall
Cerdd yr wythnos:
Un, dau, tri,
Mam yn dal pry:
Pry wedi marw,
Cig i swper eto.
Oes gan rywun syniad pwy a gyfansoddodd y pill persain uchod?
Tim
-----Original Message-----
From: annes [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 03 September 2003 16:27
To: [log in to unmask]
Subject: feeling ten feet tall
Parth. sylwadau Berwyn: blas gogleddol ar y cyfan sy ar fy
nghyfieithiadau i am mai gogleddwraig ydw i ac mi fasa iaith ddeheuol yn
teimlo'n annaturiol i mi. Mae na gyfaddawdu hefyd, ee ef, gyda, yn awr
ella'n fwy safonol na fo, efo, rwan ayyb. Lle bo rhaid dewis a'r naill
heb fod yn fwy safonol na'r llall, y dewis gogleddol sy'n mynd a hi. Lle
bydd gen i ryddid i fod yn greadigol ac yn llai ffurfiol, mor idiomatig
ag y bo modd pia hi felly mae hynny'n mynd yn fwy gogleddol. Ond os bydd
na well ymadrodd gan yr hwntws, ee ymdopi, mi fydda i'n ddigon hy a'i
ddefnyddio (er mai anamal iawn mae hynny'n digwydd wrth gwrs!) Mae'r
canlyniad naill ai'n glytwaith bler o anghysondera sy heb fod yn
cyd-fynd neu'n gyfuniad diddorol a lliwgar o'r goreuon o bob man (run
fath a dillad a bwyd) - barned y sawl a gomisiyna.
Annes
|