Bu trafodaeth yn ddiweddar ar y disgrifeiriau hynny yn Saesneg sy'n cyfuno'r
rhangymeriad presennol â gwrthrych, e.e. 'life-enhancing', a'r problemau a
gyfyd wrth eu trosi. Mae dosbarth arall o ddisgrifiadau sy'n defnyddio'r
rhangymeriad gorffennol, e.e. 'sadly decayed', 'so-called', 'hand-baked'
(swnio'n boenus iawn i fi). Beth yw'r ffordd orau o ymdrin â'r rhain? Un
sy'n fy mhoeni i yn arbennig yw 'gone mad', fel yn 'political correctness
gone mad'. Byddaf yn cael rhyw deimlad bod 'political correctness' o'i
hanfod yn 'gone mad', yn yr un modd ag y bydd pob 'aeronaut' neu 'explorer'
yn 'intrepid', pob 'blonde' yn 'dizzy' neu 'bubbly', pob 'Catholic' yn
'devout/fervent', neu bob 'Protestant' yn 'staunch/fierce'. A fyddai rhywun
yn ddiogel, wrth gyfieithu dogfen yn cynnwys yr ymadrodd 'political
correctness gone mad', i drosi'r ymadrodd fel 'cywirdeb gwleidyddol' yn
foel?
Tim
|