Hyfforddais fel cerddor clasurol chwarter canrif yn ôl a rhoddais y gorau i
bob peth cerddorol flynyddoedd yn ôl - tydi plant Cymru ddim eisiau gwybod
am Mozart, Mathias na Medelssohn bellach. Yn anffodus, mae enw Alanis
Morissette yn ddieithr i mi - rwyf yn fwy hyddysg ym myd dy chwaer (sy'n un
o'r sopranos gorau i Gymru erioed ei chynhyrchu, gyda llaw). Os ydi Alanis
gystal â Meinir Gwilym, Heather Jones, Leah Owen neu Siân James, yna byddwn
yn hoffi ei chlywed!
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: "John Puw" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, August 27, 2003 3:13 PM
Subject: Chwaeth
Mater o chwaeth bersonol yw hoffi cerddoriaeth, ond tybed oes rhywun yn
y cylch termau yn dwli yr un fath â fi ar Alanis Morissette - a thybed a
gawn ni Gymraes i ganu caneuon tebyg? Rwyt ti'n gerddor John Puw - beth
ydy dy farn di?
|