Mae genomeg yn gweithio i mi beth bynnag. Os yw geneteg yn astudiaeth y
genynnau, a bywydeg yn astudiaeth bywyd, yna dylai genomeg fod yn
dderbyniol fel astudiaeth y genom?
Genomeg yw’r hyn rydym wedi clywed cymaint amdano ers i’r genom dynol gael
ei ddisgrifio’n fanwl. Mae’r term (yn Saesneg o leiaf) yn hanu o ganol yr
wythdegau ac yn cynrychioli’r gwaith gwyddonol sydd wedi mynd ymlaen i
fapio’r genom a datgelu rhediad y genynnau ar y cromosomau. Erbyn hyn
clywir sôn am fathau arbennig o genomeg e.e. genomeg strwythurol, sef
astudiaeth y genynnau a’u perthynas i’w gilydd ar y cromosomau, a genomeg
swyddogaethol, sef beth mae’r genynnau hyn oll yn ei olygu yn fiolegol neu
yn feddygol – a chawn dermau newydd megis proteomeg yn ymddangos, sydd yn
ymwneud â mynd a’n ddealltwriaeth o’r genynnau ymlaen i lefel y proteinau
y maent yn eu rheoli
dafydd
|