Ysgrifennodd Saunders, Tim:
> Fe allai hyn fod yn broblem, gan fod hawlfraint gan yr Hormel Foods
> Corporation ar y gair 'Spam'. Ar hyn o bryd, maent yn mynd â chwmni
> SpamArrest i gyfraith am dorhawlfraint, achos a gollant yn ôl pob tebyg gan
> nad yw'r cwmni meddalwedd o Seattle yn ceisio gwerthu cig tun.
>
> Mae'n ddigon teg - ac yn gyrfeithiol ddiogelach, mae'n debyg - i gadw'r
> sillafiad cysefin ar gyfer cynnyrch arbennig Hormel, ond y gwrthwyneb sy'n
> wir parthed 'sbam' mewn ystyr drosiadol.
>
> Sbo.
>
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: John D Williams
> [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 31 July 2003 10:02
> To: [log in to unmask]
> Subject: Spam
>
>
> O edrych yn y Geiriadur Mawr o dan S ac wedyn o dan Ys, ychydig iawn
> iawn o eriau sy'n dechrau gyda Sp. Sb fyddai'n dilyn yr afer yn Gymraeg
> dwi'n credu, ond wedyn, os mai enw priod o ryw fath yw Spam, oni ddylid
> ei adael fel y mae?
Mae'n bosib mai newid y sillafiad fyddai orau, nid yn unig oherwydd
tueddiadau'r orgraff sydd ohoni, ond hefyd fel y bydd yr enw i'w weld yn
wahanol - mae'n debyg fod yn rhaid ail-enwi'r cymeriad cartwn Top Cat yn
Boss cat pan ddaeth i Brydain gyntaf oherwydd bod gan wneuthurwyr bwyd
tun i gathod hawlfraint ym Mhrydain ar yr enw Top Cat!!!
Helen
--
H.K.Smith (Helen) [log in to unmask]
(Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask]
* * * *
* * *
* * Cathod/Cats
* * Pianos
* *
*
|