Wrth gwrs! Diolch i ti, Dafydd, am esbonio hwnna. Fe gododd y dryswch yn fy
meddwl am i gopio'r eirfa o ffeil Word i'r e-bost. Petawn i wedi anfon ffeil
Word ohoni i w-t-c, sut y byddai'r aelodau wedi gallu cael gafael ar gopi
ohoni?
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 11, 2003 10:13 AM
Subject: Re: geirfa wyddonol
> Ysgrifennodd Berwyn Jones:
> > Wrth glicio ar 'Reply', chaiff y ffeiliau a oedd ynghlwm wrth y
> neges wreiddiol mo'u dychwelyd, ac fe elli di gysylltu un neu ragor o
> ffeiliau eraill wrth yr ateb. Chefais i mo'r ffeil yn o^l - a gafodd
> unrhyw un arall hi'n o^l?
>
> Nid ffeil oedd hi, ond bloc o HTML o fewn y neges, a gafodd ei gynnwys
> yn ateb Geraint.
>
> Gyda llaw, 66k oedd maint y fersiwn testun plaen a 370k oedd yr
> HTML. Eitha gwallgo er mwyn cynnwys ychydig o fformatio syml, ond
> allwn ni feio hynny ar Microsoft.
>
> Dyma un o'r adegau (prin) pan mae danfon dogfen MS Word yn gwneud fwy
> o synnwyr.
>
> --
> Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
>
|