'Pafin cyffyrddol' neu 'pafin cyffwrdd' fyddai'r cyfieithiad llythrennol o
enw'r math hwn o bafin sydd i'w weld yn gyffredin bellach wrth groesfannau
cerddwyr - y math o bafin sy'n rhoi gwybod i'r deillion (a phobl a^ gwadnau
tenau i'w sgidiau) eu bod wedi cyrraedd croesfan.
(Diffiniad rhyw wefan neu'i gilydd ohono yw 'footpath surface with raised
bumps'. Roeddwn i wedi ystyried cynnig 'pafin stydiog' tan i mi weld bod y
wefan honno'n so^n am 'tactile studs' hefyd.)
Posibilrwydd arall - gwell, efallai - fyddai dilyn y patrwm yn Termau Gwaith
a Gofal Cymdeithasol lle ceir 'map teimlo' am 'tactile map', ac ystyried
dweud 'pafin teimlo'.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, July 09, 2003 2:06 PM
Subject: Tactile Paving
> Cynigion?
>
> Tim
>
|